Welsh Parliament 
 Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a 
 Chysylltiadau Rhyngwladol 
 Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol
 Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu
 Awst 2023
 Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer oriel celf gyfoes genedlaethol, cynigiodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ddull ansoddol o ymgysylltu, yn cynnwys chwe grŵp ffocws. Mae'r papur hwn yn cyfleu’r canfyddiadau.

Y cefndir

1.              Roedd gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ddiddordeb mewn clywed barn artistiaid, staff orielau, ffrindiau a chefnogwyr orielau celf ar rinweddau'r model a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol a mynediad digidol at gelf gyfoes.

Ymgysylltu

2.            Rhwng 24 Gorffennaf ac 8 Awst 2023 cynhaliwyd chwe grŵp ffocws ar-lein gan y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion. Diben y grwpiau ffocws oedd rhoi barn rhanddeiliaid i'r Pwyllgor ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol a mynediad digidol at gelf gyfoes.

Cyfranogwyr

3.            Cymerodd 29 o gyfranogwyr ran yn y grwpiau ffocws gan gynnwys academyddion, artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol yng Nghymru ac o Gymru, staff orielau ac aelodau o elusennau a sefydliadau celf.

4.            Roedd rhai o'r cyfranogwyr yn gysylltiedig â lleoliadau a gyrhaeddodd y rhestr fer fel aelodau o'r rhwydwaith o orielau ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol. Roedd rhai o'r cyfranogwyr yn gysylltiedig â lleoliadau sy'n cynnig ar gyfer y lleoliad angor ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

5.            Canfuwyd y cyfranogwyr drwy arolwg sgrinio a anfonwyd at dros 25 o artistiaid unigol, dros 20 oriel, cyhoeddus a phreifat, a dros 15 o elusennau neu sefydliadau celf sy'n gysylltiedig â chelf ledled Cymru.

6.            Gwahoddwyd pob lleoliad ar y rhestr fer fel aelodau o'r rhwydwaith o orielau ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i gymryd rhan yn y grwpiau ffocws.

7.             Cysylltodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion â rhanddeiliaid perthnasol (er enghraifft, Celfyddydau Anabledd Cymru a Chyngor Hil Cymru) i sicrhau cynrychiolaeth deg, amrywiol a chynhwysol yn y grwpiau ffocws.

8.            Daeth y cyfranogwyr o’r pump o ranbarthau’r Senedd.

9.            Diolch i bawb a gyfrannodd at y rhaglen ymgysylltu.

Methodoleg

10.        Cynhaliwyd pob grŵp ffocws ar-lein i alluogi cymaint â phosibl o'r academyddion, artistiaid, staff orielau ac aelodau o elusennau a sefydliadau celf ledled Cymru i gymryd rhan.

11.           Trafodwyd y pwyntiau trafod canlynol yn ystod y grwpiau ffocws:

§    Beth yw rhinweddau’r model a gynigir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol?

§    Beth yw heriau'r model a gynigir?

§    Pa wahaniaeth y bydd cael mynediad at gelf gyfoes yn lleol yn ei wneud i bobl a’u cymunedau?

§    Beth fydd manteision cael mynediad digidol at gelf gyfoes, os o gwbl?

§    Beth fydd anfanteision cael mynediad digidol at gelf gyfoes, os o gwbl?

Y prif themâu

Rhinweddau cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol

12.         Roedd yr holl gyfranogwyr yn cytuno y byddai potensial mawr i Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol allu hyrwyddo artistiaid, creu swyddi i artistiaid ac ymarferwyr a helpu i hyrwyddo Cymru.

13.         Roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn gefnogol i gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer model gwasgaredig ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

14.         Cytunodd y cyfranogwyr mai un o brif rinweddau'r model gwasgaredig fydd rhoi mynediad at y casgliad cenedlaethol, ledled Cymru. Mae’n bosibl y bydd yn ei nodi’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

15.         Siaradodd llawer o'r cyfranogwyr, yn artistiaid a staff orielau, am botensial yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i artistiaid Cymreig ac artistiaid o Gymru ar lefel ryngwladol.

16.         Rhannodd y cyfranogwyr eu gweledigaeth o ran comisiynau newydd a fydd yn ymateb i'r casgliad cenedlaethol gan sicrhau nad yw'r casgliad ei hun yn parhau'n statig.

17.         Roedd y cyfranogwyr yn falch bod cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i'w gweld wedi ennill momentwm yn ystod y misoedd diwethaf.

18.         Roedd yr holl gyfranogwyr yn cytuno fod lansio gwefan newydd yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol, Celf ar y Cyd ym mis Mehefin 2023, yn garreg filltir arwyddocaol yn natblygiad cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

"Dwi ddim yn siŵr a yw pawb sy'n cymryd rhan yn deall maint hyn .....beth allai hyn fod, a beth yn ei hanfod, mae angen iddo fod, a gydd yn ddigon da. Os ydyn ni'n am wneud hyn, mae'n rhaid i ni ei wneud yn iawn."

"[Mae angen inni] godi hyn o’r 'dyma ein casgliad ni ac rydyn ni'n ei wneud yn fwy hygyrch' sydd, wrth gwrs, yn wych, i 'Beth am inni godi'r bar go iawn, o ran beth mae celf Cymru yn ei olygu, yn rhyngwladol.'"

Model gwasgaredig

19.         Roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn cytuno bod y model gwasgaredig yn fodel cryf, sy'n addas iawn i Gymru, lle gellid defnyddio'r lleoliad angor a'r orielau rhwydwaith i rannu casgliadau cenedlaethol.

20.       Teimlai'r cyfranogwyr bod hwn yn gyfle i wneud rhywbeth gwahanol ac arloesol gyda chelf gyfoes yng Nghymru yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r casgliad cenedlaethol ar lefel leol.

21.         Gan dybio y bydd yr holl leoliadau a restrir ar gyfer yr orielau rhwydwaith o fewn y model gwasgaredig yn dwyn ffrwyth, cytunodd y cyfranogwyr fod y lleoliadau a restrir ar gyfer yr orielau rhwydwaith o fewn y model gwasgaredig yn dangos demograffig da ledled Cymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig.

22.        Awgrymodd llawer o gyfranogwyr mai'r orielau rhwydwaith yw'r 'llinyn' allweddol i'r model gwasgaredig wrth ganiatáu i bobl gael mynediad at y casgliad cenedlaethol a chelf gyfoes yng Nghymru.

23.        Awgrymodd y cyfranogwyr fod hwn yn gyfle unigryw i orielau sy'n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru a thu hwnt, ledled Cymru, ddatblygu fel orielau a gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo celf gyfoes yng Nghymru.

24.        Soniodd rhai cyfranogwyr am pa mor werth chweil y bu hyd yma, yn gweithio gydag orielau rhwydwaith eraill, i allu elwa o rannu syniadau, profiadau ac arbenigedd.

25.       Awgrymodd rhai cyfranogwyr y byddai cael gwaith wedi'i guradu a'i arddangos yn wahanol ac yn fwy amrywiol mewn gwahanol leoliadau o fudd i bawb.

26.       Soniodd cyfranogwyr eraill sut y gallai'r orielau rhwydwaith, yn benodol, ddatblygu arbenigedd mewn gwahanol ffurfiau (genre) o fewn y casgliad cenedlaethol.

27.        Cytunodd y cyfranogwyr y dylai pob 'llinyn' o'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol - naw oriel rwydwaith, tair canolfan bosibl a'r safle angor - gefnogi gweithgarwch artistiaid lleol.

28.       Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gallai cael mynediad at gelf yn lleol annog pobl i fuddsoddi a phrynu gwaith celf.

29.       Soniodd rhai cyfranogwyr am werth y model gwasgaredig yng nghyd-destun oes Deallusrwydd Artiffisial. Byddai'r cyfle i allu cael mynediad at gelf yn lleol yn cyfrannu at yr angen i ymateb fel bodau dynol i syniadau cymhleth trwy gelf gyfoes.

30.       Soniodd cyfranogwyr am y newid ym myd gwaith, yn enwedig ers y pandemig, er enghraifft, gweithio o bell a gweithio oriau hyblyg. Byddai gallu gweld y casgliad cenedlaethol yn eu cymuned leol yn gwneud gwahaniaeth i bobl gan eu bod o bosibl yn treulio eu hamser yn wahanol ac yn ailasesu eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

"Mae mynd â chelf i wahanol rannau o'r wlad, yn enwedig ei gymryd o'r lle rydym nawr yn ne ddwyrain Cymru i’w glodfori a dylid ei gefnogi."

"Mae'r ffaith bod [Cymru] yn ddaearyddol amrywiol, ond hefyd yn ddaearyddol fach yn ei gwneud yn amlwg yn addas ar gyfer y math hwn o fodel.....mae pob un o'r lleoliadau'n unigryw iawn yn eu ffordd eu hunain."

"Mae wedi rhoi cyfle i ni [yr orielau rhwydwaith] ddatblygu'n broffesiynol."

"... gallu ei guradu'n wahanol mewn gwahanol leoedd....mae hynny'n ymddangos i mi yn gwbl gadarnhaol."

"Dwi ddim yn meddwl ein bod ni'n bloeddio digon am gelf o Gymru, byddai hyn yn ffordd wych o wneud hynny. Rwy'n teimlo'n gryf iawn amdano."

"Mae'n rhaid i'r safle angor fod yn adeilad symbolaidd, mae hynny'n bwysig, mae angen iddo fod yn gyrchfan.......ond rydw i hefyd yn meddwl mai'r hyn sy'n bwysig yw lledaenu celf....dyna beth fydd yn helpu i feithrin celf gyfoes yng Nghymru. Mae 'na lawer o dalent yng Nghymru sydd ddim yn cael ei hyrwyddo."

Safle angor

31.         Awgrymodd y cyfranogwyr y dylai'r safle angor gael ei wreiddio yn hanes Cymru, gydag arwyddocâd rhyngwladol. Er enghraifft, hanes diwydiannau'r gorffennol yng ngogledd a de Cymru. Byddai hyn yn clymu treftadaeth a diwylliant Cymru gyda chelf gyfoes ac yn caniatáu i bobl ymateb iddi.

32.        Soniodd y cyfranogwyr y dylid adlewyrchu'r egwyddor hon yn yr orielau rhwydwaith hefyd - gan ddefnyddio gweithiau celf perthnasol o'r casgliad cenedlaethol i gyflwyno a chyfoethogi dealltwriaeth o hanes lleol.

33.        Awgrymodd llawer o gyfranogwyr y dylai'r safle angor fod yn 'eiconig' ac y dylai weithredu fel rhiant-safle. Dywedodd cyfranogwyr eraill ei fod yn 'adeilad symbolaidd' posibl.

34.        Ychydig o gyfranogwyr a soniodd am Barc Cerfluniau Swydd Efrog - sydd wedi datblygu o fod yn goleg bach i barc a chanolfan rhyfeddol - fel model da i'w ddilyn ar gyfer y safle angor.

"Mae hanes pobl yn dod i Gymru ac yn gweithio yng Nghymru ac yn cael eu cefnogi a'u hysbrydoli gan Gymru ac yn cynhyrchu gwaith o safon rhyngwladol …….Mae gan y safle angor gyfrifoldeb i gefnogi gwaith newydd sy'n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru."

"Mae gallu sicrhau bod mynediad ar draws y wlad gyfan yn ymddangos fel rhywbeth gwych i'w wneud, ond mae yna gryfder hefyd mewn cael safle angor, achos mae rhyw angen lle canolog arnoch chi a all gefnogi'r rhwydwaith hwnnw... fel rhiant-safle."

Effaith arfaethedig gallu cael mynediad at gelf yn lleol

35.       Cytunodd yr holl gyfranogwyr fod gan y model gwasgaredig botensial enfawr i fod o fudd i bobl a chymunedau lleol.

36.       Fel athrawon a thiwtoriaid, rhannodd llawer o gyfranogwyr eu profiad uniongyrchol o weld effaith celf a gweithgareddau celf ar lesiant unigolion a chymunedau lleol.

37.        Soniodd llawer o'r cyfranogwyr am y manteision ehangach i wasanaethau eraill hefyd, er enghraifft gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd.

38.       Cytunodd yr holl gyfranogwyr fod y model gwasgaredig yn cynnig cyfleoedd pellgyrhaeddol o fewn y sector addysg. Soniodd un cyfranogwr am ddiffyg adnoddau mewn ysgolion, gan orfod mynd â deunyddiau ac adnoddau sylfaenol gyda hi bob amser i weithdai ysgolion. Roedd yn gobeithio y byddai'r model gwasgaredig yn cynnig cyfleoedd newydd, cyffrous ar gyfer partneriaethau rhwng orielau'r rhwydwaith ac ysgolion lleol, a fyddai'n creu ac yn meithrin diddordeb pobl ifanc yn y casgliad cenedlaethol.

39.       Siaradodd rhai cyfranogwyr am botensial y model gwasgaredig iddyn nhw fel artistiaid sy'n dod i'r amlwg.

"Fel athro celf a cheisio cael celf i bob rhan o'r gymuned drwy'r amser, i bawb, bydd yn gwneud gwahaniaeth mor enfawr, a gallu hyrwyddo hynny a theimlo'n falch o sefydliad rydyn ni wedi'i ddatblygu sy'n ein cysylltu ni i gyd ymhellach ac sy'n ein galluogi ni i gael perthynas gryfach â rhannau eraill o Gymru... mae hynny mor angenrheidiol ar hyn o bryd."

"Fel tiwtor... mae'r ymateb gan bobl sy'n mynychu [dosbarthiadau adferol] yn anghredadwy ac mae'r farn feddygol nawr yn troi tuag at fuddion celf."

"Mae gan Gymru artistiaid di-rif a thalentog sy'n gweithio yn ei chymunedau.  Byddai'n wych iddyn nhw gael rhywfaint o gydnabyddiaeth."

"Rydych chi'n sôn am £300 i gael bws [ar gyfer ymweliad ysgol] a dyw'r arian yna ddim ar gael heddiw..... Felly, mae'r syniad o gael [celf] yn ein cymunedau yn syniad gwych...... ein bod yn gallu agor byd y celfyddydau i'r gymuned, heb orfod teithio."

Twristiaeth

40.       Soniodd y cyfranogwyr fod gan Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol y potensial i lywio twristiaeth a buddsoddiad mewn ardaloedd lleol, ledled Cymru.

"O ran twristiaeth rwy'n meddwl bod e'n enfawr. Rydyn ni'n cael pobl sy'n dod ar wyliau yng ngorllewin Cymru ac sy’n dod nawr i ddim ond gweld arddangosfeydd.....ac [o ran] perchnogaeth leol a phobl mewn gwirionedd yn rhyw fath o falch o gelf Cymru...... maen nhw cystadlu a dweud y gwir ar y llwyfan rhyngwladol, achos mae'r safon eisoes yno."

Y Gymraeg

41.         Siaradodd llawer o'r cyfranogwyr am y cyfleoedd y byddai'r oriel celf gyfoes genedlaethol yn eu cynnig i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Heriau cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol

Diffyg gwybodaeth

42.        Soniodd llawer o'r cyfranogwyr am eu pryder am y diffyg gwybodaeth sydd ar gael am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

43.        Fel artistiaid, roedd llawer o'r cyfranogwyr yn teimlo nad oeddent wedi bod yn rhan o'r broses o ddatblygu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes.

44.        Cododd rhai cyfranogwyr bryderon am y diffyg gwybodaeth logistaidd am gynlluniau Llywodraeth Cymru, er enghraifft amserlenni a staffio.

"Mae artistiaid yn teimlo nad ydyn nhw’n rhan o’r trafodaethau. I fod yn onest, mae'r orielau wedi teimlo nad ydyn nhw’n rhan o’r drafodaeth ers cryn amser hefyd."

“Byddai rhagor o wybodaeth yn ddefnyddiol. Mae'n rhaid i ni ddyfalu, bron â gobeithio beth allai hyn fod."

"Does gennym ni ddim ymdeimlad o sut fydd hyn yn gweithredu a phwy fydd yn ei redeg."

"Rwy'n ei chael yn anodd oherwydd bod llawer o ffactorau anhysbys ... gallaf weld llawer o botensial ynddo, a gobeithio ei fod yn gyfle da i ddod â phobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn celf, er enghraifft pobl anabl, ond yr holl grwpiau eraill sydd angen eu gweld hefyd."

Terminoleg

45.       Awgrymodd un cyfranogwr nad model newydd yw hwn, mae'n fodel sydd eisoes wedi'i hen sefydlu mewn mannau eraill. Fodd bynnag, nid yw'n cael ei ddisgrifio fel 'oriel' fel arfer. Mae hyn wedi arwain at ddryswch a diffyg dealltwriaeth o'r prosiect.

46.       Mynegodd rhai cyfranogwyr bryderon am ddiffyg cysondeb yn y defnydd o derminoleg. Er enghraifft, caiff y safle angor ei ddisgrifio fel adeilad blaenllaw a safle angor, dau syniad gwahanol iawn.

47.        Awgrymodd un cyfranogwr y byddai cael adeilad blaenllaw gyda'i gyllideb a’i staff ei hun yn rhoi hwb i'r casgliad cenedlaethol, mewn ffordd na fyddai'r model gwasgaredig yn ei wneud.

48.       Soniodd yr un cyfranogwr mai'r anfantais o gael yr adeilad blaenllaw fyddai'r berthynas, efallai, â'r orielau rhwydwaith.

"Mae'r geiriad yn eithaf dryslyd ... mae'r gair oriel yn awgrymu gofod ffisegol."

"Un peth sy'n ddiddorol iawn yn fy marn i yw bod y model Cymreig hwn yn cael ei ddisgrifio fel yr Oriel Celf Gyfoes genedlaethol....Yn syml, model o ledaenu casgliadau yn fwy effeithiol ledled gwlad."

"Mae’na lawer o bethau da am y peth; mae'n cydnabod daearyddiaeth ein gwlad, amrywiaeth ddiwylliannol y wlad. Ond yn ymarferol, mae'n ymddangos ei fod yn hynod gymhleth ac mewn gwirionedd yn broses eithaf llwythog."

Model gwasgaredig

49.       Siaradodd llawer o'r cyfranogwyr am yr her i bob lleoliad o dan sylw gadw eu hunaniaeth eu hunain fel safleoedd unigol, yn ogystal â bod yn rhan o'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

50.       Soniodd cyfranogwyr eraill am yr her i'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol gael ei hunaniaeth glir a chyson ei hun, fel bod pobl yn deall beth mae'r oriel celf gyfoes genedlaethol yn ei olygu.

51.         Soniodd rhai cyfranogwyr am yr her o wneud yr oriel celf gyfoes genedlaethol yn berthnasol i bobl yn eu cymunedau lleol.

52.       Awgrymodd y cyfranogwyr y bydd yn heriol sicrhau bod y prosiect yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd ac ni ddylid ystyried lleoliadau fel 'llinynnau' ar wahân.

53.       Siaradodd llawer o gyfranogwyr am yr angen am ddull cyfannol gyda phrotocolau a rennir ar gyfer yr holl leoliadau dan sylw, hy y naw oriel rhwydwaith, y tair canolfan bosibl a'r safle angor.

54.       Soniodd y cyfranogwyr am yr her o weithio ar y cyd, gan sicrhau bod pob partner yn cael ey trin yn deg, yn gyfartal ac yn teimlo’u bod wedi'u cynnwys yn y prosiect.

55.       Yn yr un modd, siaradodd rhai cyfranogwyr am eu profiad o'r broses hyd yma ac roeddent yn teimlo ei bod yn fwy brig i’r bon na'r hyn yr oeddent wedi'i obeithio.

56.       Siaradodd rhai cyfranogwyr am y datgysylltiad rhwng y canolfannau a'r naw oriel rwydwaith.

57.        Ar ôl bod mewn sesiynau rhannu gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru, roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo mai ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng prosesau presennol a'r model newydd sy'n cael ei gynnig, er enghraifft, wrth wneud cais am fenthyciad o'r casgliad cenedlaethol.

58.       Fel artistiaid, siaradodd llawer o'r cyfranogwyr am yr her o groesawu pob math o gelf gyfoes yn yr oriel genedlaethol.

"Mae'n rhaid gwneud iddo weithio fel bod pawb yn cydweithio a does dim cystadleuaeth rhwng safleoedd."

Dim ond y cydweithio rhwng y safle angor a’r safleoedd presennol fydd yn ei chadw’n gryf."

"Mae'n ymwneud â pherthnasedd ... mewn gwirionedd mae ei wneud yn berthnasol i'm hamgylchedd a bod o ddiddordeb go iawn i'r bobl o'm cwmpas yn bwysig iawn, iawn."

"Nid yw cydnabod yr arbenigedd, safbwynt curadurol pob un o'r [orielau rhwydwaith] a bod ganddyn nhw eu cyd-destun a'u hardal eu hunain... yn gymaint o ran o'r sgwrs ag y dylai fod ar hyn o bryd."

"Y canolfannau cenedlaethol....... ydyn nhw'n arwain neu i ba raddau mae'n fodel sydd mewn gwirionedd yn gwrando, yn deall, yn dysgu o arbenigedd yr orielau lleoliad ac yn eu parchu?"

"Mae'n ymwneud â meddylfryd, mae'n rhaid i Gaerdydd wrthsefyll y syniad bod yr amgueddfa yn gwneud ffafr â ni."

"Bydd mor wasgaredig fel nad oes ganddo hunaniaeth ganolog. Dyna fyddai fy mhryder i."

"Mae angen iddo fod o'r bôn i’r brig, os yw'n dechrau teimlo o'r brig i’r bôn, bydd yn teimlo fel ei fod yn cael ei orfodi ar bobl a bydd yn dod yn nawddoglyd."

Safle angor

59.       Soniodd llawer o gyfranogwyr am yr angen am eglurder ynghylch y safle angor a mynegwyd pryderon am y datblygiad diweddar a diffyg gwybodaeth am y 'llinyn' hwn.

60.       Roedd rhai cyfranogwyr yn cwestiynu’r angen am safle angor gan awgrymu y byddai'n fwy buddiol gwneud mwy o ddefnydd o orielau presennol.

61.         Awgrymodd cyfranogwyr eraill mai'r safle angor ddylai fod yn fan cychwyn, yna gallu cyfeirio at yr orielau rhwydwaith ymhellach ledled Cymru.

62.       Ychydig o’r cyfranogwyd drafododd y syniad o gael 'teulu o orielau' ar dri safle, tebyg i Tate, sy'n deulu o bedwar safle, gan gynnwys St Ives, Cernyw. Gallai'r rhain gael eu lleoli yng ngogledd, canolbarth a de Cymru.

63.       Ychydig o gyfranogwyr oedd o blaid cael un adeilad ffisegol ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

"Byddai'n well gen i weld buddsoddiad i ddatblygu’r hyn sy'n gelfyddydau gweledol eithaf ansicr ar hyn o bryd... yn hytrach na dargyfeirio arian i adeilad mawr, sgleiniog newydd sydd efallai heb resymeg glir."

"Byddai'n hyfryd cael oriel wych, pwynt canolog. Ond mae'n rhaid i chi fod yn ymarferol. Rydyn ni'n byw mewn amseroedd enbyd ar hyn o bryd."

"Yn bersonol, mae'n teimlo fel ychydig o esgus i fod yn onest... mae gwir angen oriel celf gyfoes arnom mewn un adeilad, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wneud hynny!"

Sector preifat

64.       Ychydig iawn o gyfranogwyr a soniodd am sut y gallai'r sector preifat a'r sector cyhoeddus weithio ar y cyd i ddatblygu a chynnal yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

"Mae 'na dybiaeth drwy'r amser yn y sector cyhoeddus, bod yn rhaid ariannu’r pethau hyn gan y llywodraeth unwaith y byddwch chi'n eu sefydlu... ond nid oes rhaid iddo fod felly. Mae gwir angen [i Lywodraeth Cymru] gael cefnogaeth y sector preifat........ Mae hon yn oriel a all ddod yn hunangynhaliol."

Hyrwyddo

65.       Teimlai'r cyfranogwyr y byddai hyrwyddo effeithiol yn allweddol i lwyddiant y model gwasgaredig; soniodd llawer am heriau hyrwyddo o'r fath.

66.       Siaradodd llawer o'r cyfranogwyr am yr angen am gaffis, siopau ac ati i annog pobl i ymweld â'r orielau yn ogystal â gweithgareddau teuluol i ganiatáu i'r gymuned leol gymryd perchnogaeth o'r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

Trafnidiaeth a chynaliadwyedd

67.        Awgrymodd rhai cyfranogwyr y byddai'n heriol sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth da neu hyd yn oed digonol rhwng y gwahanol orielau, ledled Cymru.

68.       Soniodd llawer o'r cyfranogwyr am faterion cludo'r casgliad cenedlaethol i leoliadau ledled Cymru a chodi pryderon am ôl troed carbon.

Yr economi

69.       Yng ngoleuni'r hinsawdd economaidd bresennol, soniodd rhai cyfranogwyr am eu pryder am ymateb y cyhoedd i'r gwariant ynghylch yr oriel celf gyfoes genedlaethol.

70.       Cododd rhai cyfranogwyr bryderon am gyllido parhaus yr oriel celf gyfoes genedlaethol, yn enwedig o ran staffio'r lleoliadau ledled Cymru.

71.         Awgrymodd y cyfranogwyr botensial nawdd ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

Mynediad digidol at gelf gyfoes

Manteision

72.        Cytunodd yr holl gyfranogwyr fod mynediad digidol at gelf gyfoes yn 'llinyn' annatod o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol.

73.        Cytunodd y cyfranogwyr fod gan wefan newydd yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol, Celf ar y Cyd a gafodd ei lansio ym mis Mehefin 2023, botensial enfawr i gydnabod celf gyfoes yng Nghymru ar lefel ryngwladol.

74.        Roedd llawer o gyfranogwyr yn canmol ansawdd y digideiddio ar wefan Celf ar y Cyd.

75.        Fel darlithwyr, athrawon a thiwtoriaid, siaradodd llawer o gyfranogwyr am sut y byddai'r wefan yn cyfoethogi ac yn gwella sawl agwedd ar y sector addysg.

76.        Soniodd rhai cyfranogwyr am gynhwysedd mynediad digidol, yn enwedig ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu ymweld ag orielau yn gorfforol.

77.        Nododd un cyfranogwr na ddylai mynediad digidol fod yn ddewis amgen i ymweld ag orielau, ond yn hytrach yn opsiwn arall, yn enwedig i bobl nad ydynt o fewn cyrraedd i orielau.

78.        Awgrymodd llawer o gyfranogwyr mai mynediad digidol fyddai'r sbardun sydd ei angen i annog pobl i ymweld ag orielau.

79.        Siaradodd y cyfranogwyr am sut y byddai gwefan Celf ar y Cyd, yn codi ymwybyddiaeth ac yn cyflwyno'r Gymraeg i gynulleidfa newydd.

"Mae'n ffordd ddemocrataidd o rannu'r gwaith a byddai'n cynyddu ei welededd."

"... does dim ots lle yn y byd wyt ti, ti'n gallu gweld celf o Gymru. Yn hynny o beth, rwyt ti'n cystadlu â'r holl orielau mawr eraill, oherwydd rwyt ti'n troi i mewn i’r endid arall hwnnw. "

"Mae mynediad digidol yn bwysig iawn o safbwynt addysgu ac ymchwil, mae cael un gronfa ddata ganolog, safonol gyda delweddau a gwybodaeth gatalogio yn werthfawr iawn. Ond ni all fod yn wefan yn unig, mae angen iddi fod yn rhan o raglen ehangach yr oriel."

"Mae ochr ryngweithiol a throchi mynediad digidol at gelf gyfoes yn gyffrous iawn."

"Mae'r oriel ddigidol yn hollol wych. Mae'n syniad gwych."

"Gallai’r gwaith celf digidol gael ei ddefnyddio fel ffordd gadarn o gyflwyno'r iaith i bobl nad ydynt yn gwybod amdani......mae'n rhoi gwedd arall iddi."

Anfanteision

80.       Siaradodd y cyfranogwyr am heriau tlodi digidol, sy’n cyfyngu ar y gallu i gael mynediad at gelf gyfoes.

81.         Rhannodd llawer o gyfranogwyr eu pryderon am fynediad digidol yn rhwystro pobl rhag ymweld ag orielau yn bersonol.

82.       Awgrymodd yr holl gyfranogwyr fod y profiad o gael mynediad corfforol at gelf yn wahanol iawn i gael mynediad at gelf yn ddigidol. Siaradodd yr holl gyfranogwyr am yr angen i fod yn yr un ystafell â'r gwaith celf yn gorfforol er mwyn gwerthfawrogi'r gwaith yn llawn.

83.       Siaradodd llawer o'r cyfranogwyr am yr agwedd gymdeithasol o ymweld ag oriel, a gaiff ei cholli wrth gael mynediad digidol at gelf.

84.       Siaradodd y cyfranogwyr am yr angen i gynnwys yr artistiaid eu hunain yn y broses o ddigideiddio celf gyfoes.

85.       Soniodd y cyfranogwyr am yr her o ddiweddaru gwaith digideiddio celf gyfoes.

86.       Soniodd un cyfranogwr fod angen rhywbeth llai curadedig ar ymchwilwyr nag adnodd digidol sy'n wynebu'r cyhoedd a bod angen cydbwysedd da.

87.        Fel artistiaid, siaradodd rhai cyfranogwyr am eu pryder bod pobl yn cymryd syniadau o'u gwaith celf.

88.       Soniodd un cyfranogwr am broblem bosibl gor-ddigideiddio.

"Rydyn ni i gyd mor gyfarwydd ag eistedd o flaen sgrin a chael gafael ar unrhyw beth yn y byd, ond mae mynd i mewn i ofod corfforol a'r gwaith o flaen ein llygaid yn brofiad hollol wahanol."

"Fel artist, mae'r wyneb paentiedig yn bwysig iawn i mi yn fy ngwaith ac mae'n ddimensiwn arall i fy ngwaith celf."